2012 Rhif 1423 (Cy. 176) (C. 53)

Y Gymraeg

Gorchymyn Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (Cychwyn Rhif 6) 2012

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

  Gwneir y Gorchymyn hwn o dan adrannau 150(5) a 156(2) o Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011. Mae’n cychwyn darpariaethau yn y Mesur sy’n ymwneud â swyddogaeth Comisiynydd y Gymraeg o hybu a hwyluso defnyddio’r Gymraeg. Adrannau 4, 11, 144(1) a 144(3)(a) yw’r darpariaethau perthnasol.

 Mae adran 4 y Mesur yn rhoi’r pŵer i’r Comisiynydd wneud unrhyw beth sy’n briodol yn ei dyb ef er mwyn hybu a hwyluso defnyddio’r Gymraeg ac er mwyn gweithio tuag at sicrhau nad yw’r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg. Mae adran 11 yn rhoi pŵer i’r Comisiynydd wneud unrhyw beth sy’n briodol yn ei dyb ef mewn cysylltiad ag unrhyw un o’i swyddogaethau. 

Mae adrannau 144(1) a 144(3)(a) yn darparu ar gyfer diddymu swyddogaethau a fu gynt yn cael eu harfer gan Bwrdd yr Iaith Gymraeg dan adran 3 Deddf yr Iaith Gymraeg 1993. Rhoddodd adran 3 Deddf 1993 swyddogaethau ynghylch hybu a hwyluso defnyddio’r Gymraeg i’r Bwrdd. Yn ogystal, dan adran 3, rhoddwyd y pŵer i'r Bwrdd wneud unrhyw beth oedd yn gysylltiedig â pherfformio'i swyddogaethau neu'n ffafriol o ran eu perfformio. Trosglwyddwyd y swyddogaethau hyn i'r Comisiynydd a Gweinidogion Cymru pan gafodd y Bwrdd ei ddiddymu. O ganlyniad i gychwyn adrannau 4 a 11 y Mesur, mae’r Gorchymyn hwn yn cychwyn adrannau 144(1) a 144(3)(a) yn rhannol, at ddibenion diddymu’r swyddogaethau a roddwyd i'r Comisiynydd gan adran 3 o Ddeddf 1993. 

 

NODYN YNGHYLCH GORCHMYNION CYCHWYN CYNHARACH

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae darpariaethau canlynol y Mesur wedi eu dwyn i rym  drwy orchmynion cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn.

 

Y ddarpariaeth

Y dyddiad cychwyn

Rhif O.S.

adran 2(2) (yn rhannol)

adran 2(3) (yn rhannol)

adran 2 (yn llawn)

adran 3

 

adrannau 5 a 6

 

adran 7 (yn rhannol)

 

adrannau 8 i 10

 

adrannau 12 i 15

 

adran 16 (yn rhannol)

adrannau 17 i 19

 

adran 22 (yn rhannol)

 

adran 23(1) (yn rhannol)

adran 23(4)

 

adran 23 (yn llawn)

 

adran 24

 

Rhan 4, Penodau 2 i 5

 

adran 44

 

 

Rhan 4, Pennod 8

Rhan 4, Pennod 9 (yn rhannol)

Rhan 6

 

adran 120(4) (yn rhannol)

adrannau 134 i 137

adrannau 138 a 139 (yn rhannol)

adrannau 138 a 139 (yn llawn)

adran 140 (yn rhannol)

adran 141 (yn rhannol)

adrannau 142 a 143

adran 144 (yn rhannol)

 

adran 146 (yn rhannol)

adran 146 (yn llawn)

adran 147

 

 

adrannau 148 a 149

 

Atodlen 1, paragraffau 3, 7, 8, 13 ac 21

Atodlen 1 (yn llawn)

 

Atodlen 2 (yn rhannol)

 

Atodlen 4, paragraffau 1, 5, 10 ac 11

 

Atodlen 4 (yn llawn)

Atodlenni 5 i 9

 

Atodlen 11 (yn rhannol)

 

Atodlen 12, paragraffau 1, 2 a 6

Atodlen 12 (yn llawn)

28 Mehefin 2011

 

28 Mehefin 2011

 

1 Ebrill 2012

 

1 Ebrill 2012

 

1 Ebrill 2012

 

1 Ebrill 2012

 

1 Ebrill 2012

 

1 Ebrill 2012

 

1 Ebrill 2012

 

1 Ebrill 2012

 

 

17 Ebrill 2012

 

 

10 Ionawr 2012

 

10 Ionawr 2012

 

1 Ebrill 2012

 

17 Ebrill 2012

 

 

1 Ebrill 2012

 

17 Ebrill 2012

 

 

1 Ebrill 2012

 

1 Ebrill 2012

 

1 Ebrill 2012

 

1 Ebrill 2012

 

1 Ebrill 2012

 

28 Mehefin 2011

 

1 Ebrill 2012

 

1 Ebrill 2012

 

1 Ebrill 2012

 

1 Ebrill 2012

 

1 Ebrill 2012

 

 

28 Mehefin 2011

 

1 Ebrill 2012

1 Ebrill 2012

 

 

5 Chwefror 2012

 

 

 

28 Mehefin 2011

 

 

1 Ebrill 2012

 

 

1 Ebrill 2012

 

 

10 Ionawr 2012

 

 

1 Ebrill 2012

 

1 Ebrill 2012

 

1 Ebrill 2012

 

 

28 Mehefin 2011

 

 

1 Ebrill 2012

2011/1586 (Cy. 182)

2011/1586 (Cy. 182)

2012/969 (Cy.126)

2012/969 (Cy.126)

2012/969 (Cy.126)

2012/969 (Cy.126)

 

2012/969 (Cy.126)

2012/969 (Cy.126)

2012/969 (Cy.126)

2012/969 (Cy.126)

 

2012/1096 (Cy. 135)

 

2012/46 (Cy.10)

2012/46 (Cy.10)

2012/969 (Cy.126)

2012/1096 (Cy. 135)

 

2012/969 (Cy.126)

2012/1096 (Cy. 135)

 

2012/969 (Cy.126)

2012/969 (Cy.126)

2012/969 (Cy.126)

2012/969 (Cy.126)

2012/969 (Cy.126)

 

2011/1586 (Cy. 182)

2012/969 (Cy.126)

2012/969 (Cy.126)

2012/969 (Cy.126)

2012/969 (Cy.126)

2012/969 (Cy.126)

 

2011/1586 (Cy. 182)

2012/969 (Cy.126)

2012/969 (Cy.126)

 

2012/223 (Cy.37)

 

 

2011/1586 (Cy. 182)

 

2012/969 (Cy.126)

 

2012/969 (Cy.126)

 

2012/46 (Cy.10)

 

2012/969 (Cy.126)

2012/969 (Cy.126)

2012/969 Cy. 126)

 

2011/1586 (Cy. 182)

 

2012/969 (Cy.126)

 

 


2012 Rhif 1423 (Cy. 176) (C. 53)

Y Gymraeg

Gorchymyn Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (Cychwyn Rhif 6) 2012

Gwnaed                                    29 Mai 2012

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 150(5) a 156(2) o Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011([1]), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

 

Enwi

1. Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (Cychwyn Rhif 6) 2012.

Cychwyn

2. Daw darpariaethau canlynol Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 i rym ar 1 Mehefin 2012—

(a)     adrannau  4 ac 11;

(b)     adran 144(1) i'r graddau mae’n ymwneud  â’r swyddogaethau hynny a roddwyd i'r Comisiynydd gan adran 3 o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993([2]); ac

(c)     adran 144(3)(a) at ddibenion diddymu isadrannau (2)(a), (3) a (4) o adran 3 o’r Ddeddf honno.

Leighton Andrews

 

Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru

 

29 Mai 2012



([1])           2011 mccc 1.

([2])           1993 p. 38.Cafodd swyddogaethau Bwrdd yr Iaith Gymraeg dan adran 3 Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 eu trosglwyddo i Gomisiynydd y Gymraeg ar 1 Ebrill 2012 o ganlyniad i gychwyn adran 143(2) Mesur y Gymraeg. Yn ogystal a’r trosglwyddiad hwnnw i'r Comisiynydd, trosglwyddwyd swyddogaethau’r Bwrdd dan adran 3 o Ddeddf 1993 i Weinidogion Cymru ar 1 Ebrill 2012 gan erthygl 3 o Orchymyn Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (Trosglwyddo Swyddogaethau, Darpariaethau Trosiannol a Chanlyniadol) 2012 (O.S. 2012/990 (Cy.130)). Cafodd y gorchymyn trosglwyddo swyddogaethau ei wneud gan Weinidogion Cymru drwy arfer y pŵer roddwyd iddynt gan adran 154 y Mesur.